Yn yr adran yma:
Cysylltwch
Cyfeiriad: Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP,
Acw ,
Creigiau Iocws,
Ffordd Caernarfon,
Pwllheli,
Gwynedd,
LL53 6TT.
Symudol: +44 (0)7831 869857
Ebost: mici@miciplwm.co.uk
| Mwy
Ein Gwaith
Mae gwarant rhagoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP yn cynnwys nifer o wasanaethau a chynnyrch yn cynnwys:
- Cynadleddau a seminarau
- Rheolaeth digwyddiadau ac arddangosfeydd
- Digwyddiadau corfforaethol
- Lawnsio cynnyrch
- Seremonïau gwobrwyo
- Hyrwyddo
- Adloniant a llawer mwy…
O'r cyfarfod cyntaf hyd at ddiweddglo llwyddiannus, fe fyddwn ni yn cymryd y cyfrifoldeb o chwilio am leoliadau a siaradwyr, trefnu llety, teithio a chludiant, dynodi a chynllunio, llwyfannu, goleuo a sain, arlwyo, staffio, gweinyddiaeth, pecynnau dirprwyon, bathodynnau, arwyddion… beth bynnag fo eich anghenion rydym ar gael i gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth.
P'run a yw'n seremoni wobrwyo ddisglair, cynhadledd proffil uchel, sioe symudol neu fforwm busnes i fusnes, digwyddiad lletygarwch corfforaethol, ymarferiad adeiladu tîm neu lawnsiad cynnyrch, bydd tîm proffesiynol ac ymroddedig Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP yn sicrhau llwyddiant yr achlysur.
Pa un ai yw eich cynulleidfa yn 10 neu 10,000 mewn nifer fe fyddwn yn rhoi yr un sylw i fanyldeb er mwyn sicrhau llwyddiant eich digwyddiad.
Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog llawn ac mae gennym ddealltwriaeth eang o faterion diwylliannol y rhanbarth.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, y celfyddydau a'r cyfryngau, gall Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP drefnu eich digwyddiad chi.
Mae Mici yn falch iawn i fod yn gysylltiedig a:
Aelod o Fwrdd Rheoli Theatr Genendlaethol Cymru
Mentor/Ymgynhorydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Mentor cychwyn busnes i 50+ Prime Cymru
Cyflwyniadau ar entrepeneuriaeth yn ysgolion uwchradd,colegau a phifysgolion
Diolch am alw draw, a chofiwch os oes gennych unrhywbeth i'w drefnu ac am gael graen arnynt cysylltwch â ni.