Yn yr adran yma:
Cysylltwch
Cyfeiriad: Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP,
Acw ,
Creigiau Iocws,
Ffordd Caernarfon,
Pwllheli,
Gwynedd,
LL53 6TT.
Symudol: +44 (0)7831 869857
Ebost: mici@miciplwm.co.uk
| Mwy
Mici Plwm
Mici Plwm, Rheolwr Berchennog, Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP
Mae Mici Plwm yn adnabyddus am ei dalentau amrywiol a'i gyfraniad gwerthfawr i fyd adloniant fel diddanwr, actor, ysgrifennwr, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd radio, teledu a'r theatr a rheolwr grwpiau roc a gwerin. Am ddwy flynedd bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Ardudwy, Harlech, Gwynedd pan roddwyd ei dalentau amlwg ar waith y tu ôl ac o flaen y llwyfan.
Dros y blynyddoedd enillodd brofiad eang o drefnu, cynnal, arwain ac hyrwyddo digwyddiadau amrywiol led led Cymru. Yn sgìl ei waith yn cydlynu prosiectau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol mae ganddo wybodaeth drwyadl o ddenu grantiau a chodi nawdd.
Yn gyfathrebwr naturiol, datblygodd gysylltiadau agos gyda'r wasg a'r cyfryngau. Mae wedi gweithio gyda'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ac wedi meithrin perthynas gyda rhwydweithiau ehangach yn lleol ac yn genedlaethol.
Gyda'r galw cynyddol am arbenigedd ym maes cynnal digwyddiadau, sefydlodd Mici gwmni Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP yn 2003 er mwyn diwallu anghenion y gwahanol sectorau, byd busnes ac adloniant. Erbyn hyn mae'r cwmni yn ffynnu.
“Ein prif nod yn Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau MP yw cynnig gwasanaeth o safon i gwmnïau a sefydliadau ar gyfer trefnu unrhyw ddigwyddiad. Gyda’n tîm deinamig, ymroddgar rydym yn barod i wynebu unrhyw sialens ac i sicrhau llwyddiant I’n cleient.”
Diolch am alw draw, a chofiwch os oes gennych unrhywbeth i'w drefnu ac am gael graen arnynt cysylltwch â ni.